Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

 

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn     

 

RC 39 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y Gyfarwyddiaeth Lles

Gofal Cymdeithasol i Oedolion

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn

 

Mae amodau gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ymchwilio i’r ddarpariaeth gofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall ddiwallu anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion yn y dyfodol, gan gynnwys:

 

1.    Y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.

Mae’r mwyafrif llethol o bobl hŷn sy’n mynd i ofal preswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel arfer yn cael eu cyfeirio at y penderfyniad hwn gan Reolwyr Gofal ac Asesu naill ai o’u cartrefi neu o ysbyty. Mae canran is o bobl hŷn yn mynd i ofal preswyl yn ôl eu hewyllys eu hunain mewn trefniadau hunanariannu. Byddai’r holl bobl hŷn sy’n mynd i gartref preswyl gyda chefnogaeth ac arweiniad Rheolwr Gofal wedi cael asesiad a hwnnw wedi dangos bod angen gwasanaeth o’r fath arnynt a byddent yn cael asesiad unedig gyda chynllun gofal yn cael ei lunio i adnabod ac amlygu cwmpas ac ystod y gofal a’r cymorth y byddai eu hangen arnynt mewn lleoliad preswyl. Byddai’r cynllun gofal wedyn yn cael ei roi i reolwr cofrestredig y cartref er mwyn iddo ef/iddi hi wneud asesiad i ganfod a yw’n gallu diwallu anghenion yr unigolyn hwnnw wedi iddo/iddi fynd i’r cartref.

Y datganiad gweledigaeth yng Nghynllun Comisiynu Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw ‘Hybu annibyniaeth, lles a dewis a fydd yn rhoi cymorth i unigolion gyrraedd eu llawn botensial mewn cymunedau iachach a ffyniannus’. Bydd hyn yn golygu hybu egwyddorion dewis, annibyniaeth, grymuso, cyfle, urddas a pharch. Bydd yn golygu diogelu pobl agored i niwed a datblygu dulliau ataliol i sicrhau bod pobl yn derbyn y lefel briodol o gymorth ar unrhyw adeg i osgoi’r angen am gymorth hirdymor gan asiantaethau statudol. I’r perwyl hwn mae Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu ystod o wasanaethau cartref yn uniongyrchol a hefyd yn comisiynu ystod o wasanaethau cartref, ac mae’r galw am wasanaethau ‘gofal cartref’ o’r fath yn cynyddu bob blwyddyn.

Mae’r Awdurdod Lleol yn awyddus i archwilio modelau newydd ar gyfer gwasanaethau sy’n golygu newid o fodelau mwy traddodiadol o ofal preswyl. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn gweithio gyda chydweithwyr yn y sector iechyd i ddatblygu gwasanaeth ailalluogi integredig a fydd yn cynnig chwe gwely yn un o’n cartrefi preswyl ac a fydd yn agor ym mis Mehefin/Gorffennaf 2012. Nod y gwasanaethau yw darparu gwasanaeth ailalluogi amlasiantaeth ar gyfer pobl hŷn i’w galluogi i ennill yr hyder a’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i’w galluogi i ddychwelyd i’w cartrefi yn y gymuned.

Amcanion tebyg i’r rhai a nodir uchod sydd wedi ysgogi Pen-y-bont ar Ogwr i fuddsoddi yn ein Gwasanaeth Teleofal ‘BridgeLink’. Mae gweledigaeth BridgeLink fel a ganlyn: ‘Mae unigolyn yn gallu cael mynediad at, a defnyddio Teleofal fel rhan o gynllun gofal neu fesur ataliol sy’n galluogi’r unigolyn i barhau i fyw a chyflawni tasgau beunyddiol yn ei g/chartref ni waeth beth fo’r cyfyngiadau a achosir gan freuder neu anabledd’. Yn gryno rydym yn ceisio datblygu ystod o wasanaethau a fydd yn rhoi cymorth i bobl hŷn barhau i fyw yn eu cartrefi yn hytrach na symud i ofal preswyl. Ar gyfer pob un o’r prosiectau hyn. rhaid cydnabod hefyd bod diwylliant o ‘Reoli’r Risgiau’n Gadarnhaol’ yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynllunio, dylunio a chyflenwi’r gwasanaethau.

2.    Gallu’r sector gofal preswyl i ateb y gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.

Ein cred ni yw bod gorddarpariaeth o ran gofal preswyl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 25 o Gartrefi Preswyl/Nyrsio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu 1058 o welyau sy’n cynnwys 598 o welyau preswyl a 460 o welyau mewn cartrefi nyrsio. Dros y tair blynedd ddiwethaf bu tuedd amlwg o ran nifer y lleoedd gwag yn y cartrefi hyn i gyd ac er enghraifft yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 2/12/2011 roedd 36 o leoedd gwag mewn cartrefi preswyl a 46 o leoedd gwag mewn cartrefi nyrsio sy’n gyfanswm o 82 o leoedd gwag – o fewn y sector annibynnol yn bennaf. Mae’r nifer yma o leoedd gwag, fel a nodwyd eisoes, wedi parhau am nifer o fisoedd a bu patrwm tebyg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gennym bryderon ynghylch y cynnig gan AGGCC i ddileu’r categori cofrestru Henoed Eiddil Eu Meddwl (EMI – dementia) ar gyfer cartrefi preswyl. Mae’r categori gofal hwn yn agwedd bwysig i helpu comisiynwyr i wahaniaethu rhwng darparu gwasanaeth a lleoliadau. Mae risg y gallem weld gwasanaeth mwy cyffredinol yn cael ei ddarparu gan gartrefi gofal ar gyfer pobl â dementia, a allai o bosib arwain at golli’r staff a’r adnoddau arbenigol sy’n ofynnol i ddiwallu eu hanghenion yn effeithiol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen i AGGCC ddefnyddio dull hyblyg a chytbwys o ran y cofrestriad ar gyfer dementia – yn enwedig lle mae preswylydd mewn cartref gofal cyffredinol yn cael diagnosis dementia. Ar y cam yma mae angen dull ymarferol yn hytrach na gorfodi sefyllfa lle mae preswylydd yn symud i gartref sydd wedi’i gofrestru ar gyfer dementia, yn enwedig os yw’r cartref yn parhau i gwrdd ag anghenion y preswylydd yn ddigonol.

Rydym ni’n credu bod diwallu anghenion gofal a chymorth pobl â dementia’n un o’r prif heriau i wasanaethau Gofal Cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, rydym hefyd yn credu y gellir ymateb i’r her hon trwy adleoli adnoddau presennol os mabwysiadir dull sy’n canolbwyntio ar y gwasanaeth cyfan a’r sector cyfan. Mae’n bwysig bod partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes tai i gynllunio gwasanaeth ataliol effeithiol a gwasanaethau cymunedol effeithiol, megis cynlluniau gofal ychwanegol i alluogi pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cymunedau lleol. Bydd angen hefyd i ofal cymdeithasol greu gwasanaethau cymunedol sydd â diwylliant o ailalluogi. Bydd hyn yn golygu bod angen newid tuag at hyfforddiant mwy arbenigol ar gyfer staff a gwasanaethau cymunedol, er mwyn sicrhau bod y math cywir o gymorth yn cael ei roi ar yr adeg gywir ac yn yr amgylchedd cywir.

Ffactor arall sy’n dylanwadu ar allu’r sector cartrefi preswyl i ateb y galw am wasanaethau ymhlith pobl hŷn o ran adnoddau staffio yw lefelau’r ffioedd. Fodd bynnag, rydym yn amcanu at weithio mewn partneriaeth gyda’r sector preifat, y sector gwirfoddol a rhanddeiliaid allweddol i hybu dull o fewn y farchnad leol sy’n seiliedig ar un gweithlu ar gyfer y sector cyfan. Byddwn yn cynorthwyo staff gofal cymdeithasol i oedolion i gael y sgiliau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol i gyflawni’r ystod o ymatebion a swyddogaethau a fydd yn ofynnol yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn targedu cyllid sy’n cynnal y farchnad gyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol i oedolion ac yn gwella’r trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff.  

 

 

3.    Ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran diwallu’r amryw anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.

Fel Comisiynydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr rydym yn amcanu at adeiladu ar ein partneriaethau presennol gyda darparwyr a chyfnerthu trefniadau gweithio effeithiol trwy barhau i feithrin prosesau contractio cadarn. Y nod yw cynnwys darparwyr mewn ffordd gadarnhaol i gyfranogi yn y gwaith o gynllunio a chomisiynu er mwyn helpu i wella ansawdd a gwella gwerth am arian, gan gynnwys cyfarwyddyd clir o ran bwriadau comisiynu ar gyfer y farchnad. Byddwn yn gweithio mewn modd cydweithredol a byddwn yn dryloyw ac yn hyblyg fel ein bod yn gallu sefydlu economi gymysg o ofal sy’n fwy fforddiadwy o safbwynt ariannol; ymatebion a deilliannau o ansawdd gwell ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau; a mwy o gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl leol. Rydym eisoes yn adeiladu pontydd i hybu’r arfer o gynllunio gofal mewn modd person-ganolog a chyflenwi gofal mewn modd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ar draws cartrefi gofal. Rydym yn teimlo y byddai fframwaith canlyniadau’n galluogi gwasanaethau a gomisiynir i ymdrechu i gasglu a mesur deilliannau ar gyfer unigolion mewn ffordd fwy strwythuredig – a fyddai’n dangos yr effeithiolrwydd ar lefel y gwasanaeth ac ar lefel y farchnad.

 

Mae ein profiad ni hyd yma o ran y gwasanaeth preswyl a ddarperir yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos bod gwahaniaethau o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn y sector hwn. Rydym wedi bod yn defnyddio ein safonau ffioedd premiwm ansawdd i hybu ansawdd y gofal. Dros y 12 mis diwethaf mae’r dull hwn wedi arwain at welliant gwirioneddol yn y gofal a brofir gan unigolion – gyda mwy o newid tuag at ddulliau a gweithgareddau wedi’u personoleiddio’n fwy, i helpu’r unigolion i deimlo’n rhan o’r cartref a’r gymuned.

 

Bu i dranc South Cross yn ddiweddar ar lefel genedlaethol hoelio ein sylw i raddau helaeth ar y modd y byddem yn ymateb pe bai cartref(i) gofal yn ymddatod/methdalu ac ati ac i’r perwyl hwn fe ddatblygon ni gynllun parhad busnes mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn y sector iechyd i arwain ein hymatebion pe ceid digwyddiad o’r fath. Rydym hefyd yn ystyried ein prosesau ar gyfer achredu darparwyr newydd a phresennol i sicrhau bod hyfywedd ariannol yn cael ei asesu a’i gydnabod, er ein bod yn teimlo bod gan AGGCC a chyrff rheoleiddio eraill ran i’w chwarae o safbwynt archwilio addasrwydd asiantaethau a’u sefydlogrwydd ariannol – yn enwedig lle mae gan gyrff rheoleiddio lwyfan sy’n eu galluogi i fwrw golwg ar y sector cyfan a chael darlun cenedlaethol o sefydlogrwydd ariannol asiantaethau.

 

Rydym yn credu bod pennu ffioedd yn rhywbeth sydd o’r pwys mwyaf a bod cysylltiad rhwng hynny ac ansawdd y gofal. Fel a grybwyllwyd eisoes mae gan Ben-y-bont ar Ogwr ffi ansawdd o fewn ein strwythur ffioedd, sy’n ein galluogi i gynnwys ansawdd a chanlyniadau yn y broses o asesu ffioedd. Mae’r Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrthi ar hyn o bryd yn gwneud darn o waith i ddeall y pwysau o ran costau ar draws y sector i helpu i oleuo’r broses o bennu ffioedd yn y dyfodol. Mae’r ymarfer hwn yn bwysig yn dilyn adolygiadau barnwrol diweddar mewn perthynas â phennu ffioedd a chyflwyno Canllawiau a Fframwaith Comisiynu Llywodraeth Cymru yn 2010. Mae’r canllawiau’n gosod y cywair ar gyfer pennu ffioedd ac mae’r adolygiadau barnwrol diweddar yn pwysleisio’r angen i Awdurdodau Lleol sicrhau bod ffioedd yn seiliedig ar gost y gofal yn hytrach na sefyllfa ariannol yr ALl. Gyda hyn mewn cof byddai o gymorth pe bai Llywodraeth Cymru’n rhoi mwy o arweiniad a chyfarwyddyd i Awdurdodau Lleol ynghylch pennu ffioedd i sicrhau dull cyson er mwyn lliniaru a lleihau’r heriau mewn perthynas â lefelau ffioedd.

 

 

4.    Effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.

 

Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod yn llwyr y manteision a gafwyd gan y sector cartrefi preswyl o ganlyniad i weithredu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer y sector hwn. Fodd bynnag, er bod gan AGGCC rôl ranbarthol hollbwysig o hyd o ran monitro cartrefi preswyl, rydym yn credu mai’r bobl allweddol o ran gwella safonau yn y sector hwn fydd y Tîm Monitro Contractau. Mae timau AGGCC yn cael eu canoli’n fwyfwy ac mae pryder y gallent golli cudd-wybodaeth leol werthfawr a allai effeithio ar eu golwg gyfannol ar wasanaethau. Maent yn agosach yn ddaearyddol at y gwasanaethau hyn ac yn aml maent mewn cyswllt dyddiol â gwasanaethau pan eu bod mewn argyfwng. Byddem hefyd yn dadlau bod gan y Timau Monitro Contractau mewn Awdurdodau Lleol well dealltwriaeth am y grymoedd sydd ar waith yn y farchnad ac sy’n dylanwadu ar y modd y cyflenwir y gwasanaethau hyn a’u bod felly mewn gwell sefyllfa i graffu ar hyfywdra ariannol darparwyr. Yn ogystal â hynny, mae’r perthnasoedd contractio a’r adroddiadau monitro rhwng Awdurdodau Lleol a darparwyr yn tueddu i amlygu anghysonderau mwy mewn gofal ac arfer ar draws cartrefi gofal – lle mae adroddiadau AGGCC yn tueddu i ganolbwyntio ar faterion rheoleiddiol a gwaith gorfodi i’w weld fel pe bai’n cael ei ysgogi gan Awdurdodau Lleol.

 

 

 

5.    Modelau newydd a modelau sy’n dod i’r amlwg o ran darparu gofal.

Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweithio tuag at sefydlu cyngor a chynhorthwy integredig, cynhwysol a di-dor sy’n hybu canlyniadau cadarnhaol i bobl agored i niwed. Bydd y dull hwn yn golygu ymatebion ataliol hyblyg a hygyrch mewn cymunedau lleol a’r rheiny wedi’u teilwra i amgylchiadau a dewis unigol. Bydd y dull hwn yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i adnabod y risgiau i’w hannibyniaeth, a mynd ati ar y cyd i bennu strategaethau i leihau’r risgiau hynny i’r eithaf fel y bo’n briodol. I’r perwyl hwn rydym yn ceisio datblygu a chomisiynu ystod o fodelau ar gyfer darparu gofal, o ofal ychwanegol ar gyfer cymuned gymysg i ofal ychwanegol sy’n arbenigo mewn rhoi cymorth i bobl â dementia, gwasanaethau craidd a chlwstwr, cymunedau KeyRing, cymorth fel y bo’r angen yn y gymuned ac, fel a nodwyd eisoes, ailalluogi. Ein nod yw datblygu marchnad gymysg o ran gofal cymdeithasol sy’n gallu ymateb yn effeithiol i anghenion gofal a chymorth pobl hŷn ni waeth ble maen nhw ar y continwwm gofal.

 

 

6.    Y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheiny a gynigir gan y sector cydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Aeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ati mewn ffordd weithredol i archwilio’r holl opsiynau y cyfeirir atynt uchod fel rhan o’i agenda ailfodelu. Rydym ni’n credu, yn y cyfnod hwn o heriau economaidd, bod yn rhaid i unrhyw ddatblygiadau o’r fath fod yn seiliedig ar achos busnes cadarn ar gyfer gofal cymdeithasol sy’n dwyn manteision uniongyrchol ac anuniongyrchol i’r cymunedau a wasanaethir gan yr Awdurdod. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn archwilio trefniadau partneriaeth posib gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu cyfleusterau gofal ychwanegol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.